Annwyl Aelodau’r Pwyllgor Cyllid

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

Ar 3 Tachwedd 2016, fel rhan o’n gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau sesiwn holi gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros y Seilwaith a Sgiliau a’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

Ysgrifennaf i dynnu eich sylw at nifer o’r prif faterion.

Chwyddiant

Clywsom gan y Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol mai tua 2-3% oedd y rhagdybiaethau ar gyfer chwyddiant yn y gyllideb. Cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd ragolwg ar ddydd Iau 3 Tachwedd yn awgrymu y gallai chwyddiant godi i 4% erbyn diwedd 2017. Er mai 4% yw’r ffigur a ragwelir, mae’n arferol i gyfraddau chwyddiant fod yn wahanol, ac o bosibl yn uwch, ar gyfer sectorau gwahanol.

Yn y portffolio seilwaith mae sawl prosiect buddsoddi mawr aml-flwyddyn – y mwyaf nodedig o’r rhain yw ffordd liniaru’r M4 a Metro De Cymru – a gallai costau’r prosiectau hyn godi’n sylweddol, pe bai chwyddiant yn codi’n sydyn ar ôl cyfnod hir o fod ar lefel hanesyddol isel.

 

Er bod cynnydd o 1-2% mewn chwyddiant yn y flwyddyn ariannol 2017-18 yn debygol o fod yn anodd, gall portffolio’r economi a seilwaith ymdopi ag ef, ond pe bai’r gyfradd yn codi’n uwch yn y blynyddoedd i ddod, byddai’n effeithio’n sylweddol ac yn negyddol ar gostau hirdymor prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd. Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn cydnabod y perygl a geir yn sgil chwyddiant cynyddol, nid yn unig i’r gyllideb, ond i’w holl nodau polisi.

Nodwn hefyd nad ar y portffolios sy’n dod o dan ein cylch gwaith un unig y byddai cyfraddau chwyddiant uwch yn effeithio; mae hefyd risg posibl i bob maes o weithgarwch y Llywodraeth yn y blynyddoedd i ddod.

Byddem yn croesawu rhagor o fanylion am sut y mae’r adran yn modelu effaith bosibl chwyddiant uwch.

Proses y gyllideb

Ym mis Gorffennaf 2016, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi “mwy o dystiolaeth yn y dyfodol sy’n nodi’r rhesymeg y tu ôl i ddyraniadau’r gyllideb, gan gynnwys manylion am yr effaith economaidd a ragwelir.” Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn.

Fodd bynnag, yn y 10 tudalen ar gyfer y gyllideb gyfan yn asesiad effaith strategol eleni, nid oes ond un cyfeiriad at ardaloedd menter, a dywed hwnnw: “research has shown that area based initiatives, like enterprise zones, can have positive impacts on employment and regional GDP.” Mae hwn yn un o’r cyfeiriadau at bortffolio’r economi a seilwaith a wnaed heb resymeg sy’n seiliedig ar y dystiolaeth y gofynnodd y Pwyllgor Cyllid amdani, ac a gytunwyd gan y Llywodraeth. Mewn ymateb i’n cwestiynau, nododd y Gweinidog nad oedd mesur canlyniadau economaidd yn wyddor fanwl - a gwir y gair. Ond er mwyn i eraill asesu a yw’r blaenoriaethau a ddewiswyd yn rhesymol, ac a yw’r allbynnau disgwyliedig yn rhoi gwerth am yr arian cyhoeddus a fuddsoddwyd, mae’n hanfodol bod mwy o ymdrech yn cael ei gwneud o ran rhannu’r gwaith meddwl a’r dystiolaeth sy’n sail i benderfyniadau gwariant y Llywodraeth. Mae’r gwaith meddwl hwnnw weithiau i’w ganfod mewn mannau eraill (cawsom enghraifft yn adroddiad blynyddol Cyllid Cymru), felly dylid ei gynnwys yn naratif y gyllideb.

Mesur allbynnau a chanlyniadau

Mae hefyd waith i’w wneud i sicrhau bod allbynnau a chanlyniadau’n ystyrlon a bod modd eu mesur. Yn yr economi bresennol, gyda chyflogaeth yn uwch nag erioed, nid ‘swyddi a grëwyd’ bob amser yw’r mesur mwyaf effeithiol o lwyddiant o reidrwydd, na’r mwyaf dewisol ychwaith, yn enwedig os nad yw’r swyddi hynny yn rhai sy’n denu’r gweithlu lleol nac yn cyfateb yn dda i’w sgiliau. Yn yr un modd, mae’n bosibl bod busnesau yn ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru i gynyddu eu cynhyrchiant a chodi eu hallbwn, ond heb ddymuno creu swyddi na chyflogi staff ychwanegol yn y broses.

Dylid adlewyrchu realiti’r economi bresennol bob tro yn y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ac yn y dangosyddion a ddefnyddir i fesur llwyddiant.

Yn ein trafodaeth â’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, nododd bod angen ystyried ei llinellau cyllideb ar gyfer arloesi, er enghraifft, yn y tymor hwy er mwyn gwerthuso adenillion ar fuddsoddiad o gymharu â grant syml ar gyfer creu swyddi.

Mae’n hanfodol bod y gwaith parhaus i ddatblygu strategaeth economaidd newydd yn cynnwys ymdrech i sicrhau bod modd rhagweld yn fwy effeithiol y canlyniadau a fydd yn codi o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a’u mesur wedyn. Yn y ffordd hon, byddai’n bosibl cynnal gwaith craffu gwirioneddol effeithiol ar y penderfyniadau sydd y tu ôl i’r dyraniadau yn y gyllideb, ac effaith net y buddsoddiad hwnnw. Bydd hyn yn ei gwneud yn gliriach lle mae’r cynlluniau’n aflwyddiannus.

 

 

 

Themâu trawsbynciol

Mae’r Llywodraeth newydd wedi pennu blaenoriaeth uchel ar natur drawsbynciol portffolios a chyfrifoldebau’r Llywodraeth. Mae’r symud ymaith o’r ffordd o weithio mewn seilo sydd wedi nodweddu’r Llywodraeth ar bob lefel i’w groesawu.

Fodd bynnag, nid yw’r gyllideb gyfredol wedi cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n cyfleu effaith y themâu trawsbynciol hyn yn dda iawn. Nac ychwaith lle mae cyllidebau adrannol lluosog yn cyfrannu at ddyheadau (e.e. teithio llesol, lle y gallai gwariant ym mhortffolios iechyd, llywodraeth leol neu’r economi a seilwaith gyfrannu at lwyddiant wrth weithredu’r Ddeddf teithio llesol.)

Yn ei chyllideb ei hun, ni allem yn hawdd ganfod cyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru ar sgiliau ei staff ei hun, er enghraifft. Ac ni allem ddweud faint a wariwyd ar ymchwil a datblygu.

Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Er i’r ddau Weinidog nodi’n glir yn eu hymatebion i’r Pwyllgor fod yr egwyddorion o ran cenedlaethau’r dyfodol wedi cael eu hymgorffori yn eu holl benderfyniadau, nid oedd yn glir i ni sut yr oedd hyn yn cael effaith ar benderfyniadau cyllidebol, nac ychwaith beth - os unrhyw beth - oedd wedi newid o ganlyniad. Pan ofynnwyd am enghraifft benodol, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith at barhau i ariannu Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau (BSSG) gyda £25 miliwn.

Mae’r gronfa hon wedi’i bennu ar £25 miliwn er 2013-14 - ymhell cyn i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddod yn gyfraith.

Er i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol nodi ei bod yn disgwyl i effaith y Ddeddf ar gyrff cyhoeddus gynyddu dros amser - gan gynnwys yr effaith ar Lywodraeth Cymru - nid yw’n glir ar hyn o bryd a yw’r fframwaith newydd yn cael ei defnyddio i herio’r status quo, neu i gyfiawnhau penderfyniadau a gymerwyd o’r blaen.

 

Cododd ein trafodaeth nifer o faterion penodol eraill, a byddwn yn codi’r rhain, ac yn eu monitro, gyda’r Gweinidogion perthnasol yn ein gwaith craffu rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Yn gywir

 

Russell George AC

Cadeirydd

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau